Y Gorffennol…
Yn ystod mis Awst 2008, pan yn byw ar ynys fechan yng ngwlad Groeg, yr oeddem wedi derbyn cwch gwnenyn fel anrheg priodas gan feddyg lleol. I ddweud y gwir, doeddwn ni’n gwybod dim am gadw gwnenyn ac yn ansicr o be roeddem yn fod i wneud efo nhw! Beth bynnag, dros y blynydoedd i ddilyn, disgynom mewn cariad â’r byd wirioneddol diddorol o gadw gwenyn.
Presennol…
10 mlynedd ymlaen a rydym nawr yn ôl adref ac yn byw ar arfordir Cymru gyda’r mynyddoedd yn y cefndir. Erbyn hyn, mae tu hwnt i ddeg o gychod gennym gyda Buckfast, Carniolan a gwenynod lleol Cymreig, sydd ddim byd tebyg i’r gwenynod ‘kamikaze’ o wlad Groeg!
Lle rydym arni?
Rydym wedi creu gwefan i rannu a lledaenu’r angerdd o gadw gwenyn i wenynwyr eraill sydd unai yn cadw gwenyn neu yn gobeithio gwneud yn y dyfodol. Mae Gwenynwe wedi’w sefydlu o’n cariad ac ymroddiad i un o’r creaduriaid mwya clefar, ybrydoledig a prydferth ar y ddear. Rydym wedi cynhyrchu gwefan sydd yn eich galluogi i archebu nwyddau ac offer cadw gwenyn, cychod gwenyn sydd wedi’w cynhyrchu’n lleol ac eitemau hanfodol eraill am gost rhatach ac mae ein amcanion yn cynnwys:
- Annog a hwyluso cadw gwenyn
- Darparu cynnyrch/nwyddau fforddiadwy
- Osgoi’r dryswch o sefydlu a chadw gwenyn
- Cynnig cyngor a chefnogaeth drwy rannu ein profiadau a gwybodaeth
Y Dyfodol…
Wrth rannu ein profiadau a galluogi eraill i gadw gwenyn, rydym yn gobeithio sicrhau lles a bodolaeth gwenynod at y dyfodol.