Megin Mwg / Mygwr

Pris:£10.99£12.99

Mygwr dur di-staen gyda megin lledr a phren.

Offer sydd yn angenrheidiol i wenynwyr.

Clear

Disgrifiad

Mygwr dur di-staen gyda megin lledr a phren.

Offer sydd yn angenrheidiol i wenynwyr.

Mae gan y mygwr fanteision ychwanegol sef:

– Megin lledr

-Ffrâm ddur o’i gwmpas i osgoi llosg a thân

– 2 x fachun

– Clip ar gyfer y megin

Mae dau maint ar gael:

Mawr = 27cm o uchder x 10.5cm lled, gyda’r megin yn mesuro 19cm o uchder wrth 11.5cm lled

Canolig = 23cm o uchder x 8.5cm lled, gyda’r megin yn mesuro  17.5cm o uchder wrth  10cm o led

Sut i Ddefnyddio

Cyn ddefnyddio’r mygwr am y tro cynta, gwnewch yn siwr eich bod yn agor y caead a thynnu’r grât o’r gwaelod, agorwch y dair coes yn waelod y mygwr ar ei lawr cyn dychwelyd y grât.

Rhowch cerdyn a phapur yn y mygwr a’i danio, gwasgwch y megin nes fod mwg yn ymddangos ac yna ychwanegu ychydig o ddarnau bach o bren.

Tips Da

Nid yw tanio mygwr yn hawdd bob tro, gan fod yn bosib i’w or lwytho a ddiffodd y tan.

Yn ein barn ni, y ffordd orau i wneud hyn yw tanio darn bach o bapur a’i ollwng i mewn i’r mygwr, yna ychwanegu cerdyn wedi’i dorri ac ychydig o gonau pinwydd sych ar ei ben.  Gwasgwch y megin i ychwanegu ocsigen nes fod gennych stêm cyson o fwg yn dod allan o’r pig.

Share our product on social media!
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  
  •  

Additional information

Size

Medium, Large

Be the first to review “Megin Mwg / Mygwr”

*